top of page

Seintiau Curig a Julitta

Credir bod Curig Lwyd (Curig Fendigaid) yn un o esgobion Llanbadarn yn y 6ed ganrif ac mae sawl eglwys yng Nghymru wedi’u cysegru iddo.  Ond yng nghyfnod y Normaniaid, cafodd y sant o Gymru ei ddisodli yma, fel mewn eglwysi eraill yng Nghymru, gan Cyriacus (neu Cyricus) a gafodd ei ferthyru yn blentyn, a’i fam Julitta.

 

Pan oedd yr ymerawdwr Rhufeinig Diocletian yn erlid y Cristnogion yn greulon yn y 4edd ganrif, collodd pendefiges gefnog a duwiol o’r enw Julitta ei gŵr, gan ei gadael yn weddw gyda’i mab tair oed Cyricus.  Gan ei bod hi’n Gristion, penderfynodd ei bod yn rhy beryglus aros yn Iconium (yng nghanol Twrci), ei bro enedigol.

 

Gan fynd â’i mab a dwy forwyn, ffodd i Seleucia ond fe’i dychrynwyd o glywed bod y llywodraethwr yno, Alecsander, yn erlid Cristnogion yn ddidrugaredd.  Aeth y pedwar ffoadur ymlaen i Tarsus ond yn anffodus roedd Alecsander yn ymweld â’r ddinas honno a chafodd y ffoaduriaid eu hadnabod a’u harestio.

 

Dygwyd Julitta gerbron y llys a daeth â’i mab ifanc gyda hi i’r cwrt.  Gwrthododd ateb unrhyw gwestiwn amdani hi ei hun heblaw i gadarnhau mai Cristion oedd hi.  Dyfarnodd y llys y dylid estyn Julitta ar arteithglwyd ac yna ei churo.  Cyn mynd â Julitta i ffwrdd, cymerodd y gwarchodluwyr ei mab Cyricus oddi arni.  Roedd y plentyn yn wylo ac er mwyn ceisio yn ofer ei dawelu rhoddodd y llywodraethwr Alecsander Cyricus ar ei lin.

 

Yn ei fraw a’i awydd i fynd yn ôl at ei fam, ciciodd Cyricus y llywodraethwr a chrafu ei wyneb.  Cododd Alecsander yn wyllt a thaflu’r plentyn bach i lawr grisiau’r tribiwn, gan dorri ei benglog a’i ladd.

 

Ni wylodd mam Cyricus – yn lle hynny fe roddodd ddiolch i Dduw ac aeth yn siriol i gael ei harteithio a’i lladd.  Roedd ei mab wedi derbyn coron merthyrdod.  Roedd hyn yn gwneud y llywodraethwr hyd yn oed yn fwy dig a gorchmynnodd y dylid rhwygo ystlysau Julitta ar wahân gyda bachau ac yna dorri ei phen.

 

Cafodd cyrff Julitta a Cyricus eu taflu allan o’r ddinas ar bentwr o gyrff troseddwyr ond achubodd ei morwynion gyrff y fam a’r mab a’u claddu mewn cae gerllaw.

Icon.jpg
bottom of page