Eglwys Santes Julitta yw’r lleiaf o hen eglwysi Eryri. Pan gafodd ei chodi, ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau 16eg, mae’n debyg, ei henw oedd Capel Curig - gan roi’r enw i’r ardal ac i’r pentref a ddatblygodd yn raddol. Yn ôl chwedl leol, codwyd y capel gan foneddiges leol a oedd yn dioddef anhwylder ar ei chroen. Cafodd ei chynghori i olchi’r rhannau llidus yn nyfroedd ffynnon ar fferm Gelli’r Mynach. Cafodd wellhad a chan ddiolch i Dduw fe gododd y capel hwn wrth ymyl y ffynnon sanctaidd. Efallai i’r capel gael ei gysegru i Curig oherwydd cysylltiad â Curig Lwyd, Curig Fendigaid, mynach o’r 6ed ganrif a fu’n Esgob Llanbadarn wedyn, y defnyddid ei ffon trwy’r canol oesoedd fel crair a oedd yn gallu gwella afiechydon y croen.
Mae adeiladwaith allanol yr eglwys yn nodweddiadol o arddull wledig, syml yr hen eglwysi yn Nyffryn Conwy. Roedd y fynedfa yn y mur gogleddol yn wreiddiol a gallwn weld y porth caeëdig o dan fwa seiclopaidd - sef carreg unigol anferth wedi’i cherfio’n fras i ffurfio bwa. Mae’n debyg i’r capel deheuol gael ei ychwanegu yn ddiweddarach. I wneud hyn, byddai angen tynnu’r to ac mae tystiolaeth o godi uchder y to i’w gweld ar y talcen dwyreiniol. Tu mewn, roedd oriel uwchben y capel deheuol, gyda ffenestr do yn ei goleuo. Cafodd y clochdwr ei godi cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; dyddiad y gloch yw 1623 ond efallai iddi fod mewn lleoliad arall cyn dod yma.
Ym 1837, cafodd y capel ei adnewyddu’n sylweddol ar gost y tirfeddiannwr lleol, George Hay Dawkins-Pennant o Gastell y Penrhyn. Roedd ffenestri adeiniog petryal yn rhoi mwy o olau i mewn a chafodd nenfwd fowt faril ei osod dan drawstiau’r to canoloesol. Roedd y dyluniad yn nodweddiadol o eglwys Anglicanaidd efengylaidd fach yn y cyfnod hwn, yn llawn seddau blwch yn wynebu pulpud amlwg gyda desg ddarllen o dano, lle y byddai’r clerigwr yn cynnal y rhan fwyaf o’r gwasanaeth. Cafodd eglwys Sant Curig newydd a llawer mwy mawreddog ei chodi wrth y lôn bost ym 1883 a chafodd yr hen eglwys ei hailgysegru i Santes Julitta.
Mae’r eglwys bellach wedi cael ei datgysegru ond mae grŵp o wirfoddolwyr, Cyfeillion Eglwys Santes Julitta, sy’n elusen gofrestredig, yn ei phrydlesu gan yr Eglwys yng Nghymru ac yn gofalu amdani. Cliciwch yma am wybodaeth am arweinlyfrau.
Yn y fynwent mae cenedlaethau o bobl Capel Curig yn ogystal â llawer o rai a laddwyd mewn damweiniau wrth fynydda, yn huno. Mae’r cerrig beddi yn cyfleu hanes cyfoethog y bobl, eu cartrefi a’u gwaith. Mae’r arysgrifau ar y cerrig beddi yn y fynwent wedi cael eu cofnodi ac mae ar gael fel llyfryn i’w brynu. Hefyd mae Adysgrifau’r Esgob 1756 – 1837 wedi cael eu hadysgrifio ac maen nhw ar gael ar ffurf Llyfryn A4 am £8.50.
Mae’r fynwent hefyd yn hafan ar gyfer amrywiaeth eang o bryfed, adar, mamaliaid a phlanhigion – mae’n cael ei rheoli gyda’r nod o gynnal bywyd gwyllt. Mae blychau adar ac offer bwydo adar wedi’u gosod ac mae nifer o goed cynhenid wedi’u plannu. Mae blodau’r gwanwyn yn edrych yn hyfryd ar ôl y gaeafau llwm sydd weithiau i’w cael yng Nghapel Curig!
Mae dyluniad yr eglwys wreiddiol yn nodweddiadol o hen eglwysi Eryri a bellach mae’n unigryw yn yr ardal – sef yr unig enghraifft lle nad yw’r sgwâr dwbl (mae’r hyd ddwywaith y lled) wedi cael ei newid yn ddiweddarach.
Cafodd yr eglwys ei chreu gan bobl Capel Curig, ei hariannu ganddyn nhw a’i chodi gan grefftwyr lleol ac mae’n cynrychioli symlrwydd a hanfod yr anheddiad yn ei ddyddiau cynnar.
Credir bod Curig Lwyd (Curig Fendigaid) yn un o esgobion Llanbadarn yn y 6ed ganrif ac mae sawl eglwys yng Nghymru wedi’u cysegru iddo. Ond yng nghyfnod y Normaniaid, cafodd y sant o Gymru ei ddisodli yma, fel mewn eglwysi eraill yng Nghymru, gan Cyriacus (neu Cyricus) a gafodd ei ferthyru yn blentyn, a’i fam Julitta.
Pan oedd yr ymerawdwr Rhufeinig Diocletian yn erlid y Cristnogion yn greulon yn y 4edd ganrif, collodd pendefiges gefnog a duwiol o’r enw Julitta ei gŵr, gan ei gadael yn weddw gyda’i mab tair oed Cyricus. Gan ei bod hi’n Gristion, penderfynodd ei bod yn rhy beryglus aros yn Iconium (yng nghanol Twrci), ei bro enedigol.
Gan fynd â’i mab a dwy forwyn, ffodd i Seleucia ond fe’i dychrynwyd o glywed bod y llywodraethwr yno, Alecsander, yn erlid Cristnogion yn ddidrugaredd. Aeth y pedwar ffoadur ymlaen i Tarsus ond yn anffodus roedd Alecsander yn ymweld â’r ddinas honno a chafodd y ffoaduriaid eu hadnabod a’u harestio.
Dygwyd Julitta gerbron y llys a daeth â’i mab ifanc gyda hi i’r cwrt. Gwrthododd ateb unrhyw gwestiwn amdani hi ei hun heblaw i gadarnhau mai Cristion oedd hi. Dyfarnodd y llys y dylid estyn Julitta ar arteithglwyd ac yna ei churo. Cyn mynd â Julitta i ffwrdd, cymerodd y gwarchodluwyr ei mab Cyricus oddi arni. Roedd y plentyn yn wylo ac er mwyn ceisio yn ofer ei dawelu rhoddodd y llywodraethwr Alecsander Cyricus ar ei lin.
Yn ei fraw a’i awydd i fynd yn ôl at ei fam, ciciodd Cyricus y llywodraethwr a chrafu ei wyneb. Cododd Alecsander yn wyllt a thaflu’r plentyn bach i lawr grisiau’r tribiwn, gan dorri ei benglog a’i ladd.
Ni wylodd mam Cyricus – yn lle hynny fe roddodd ddiolch i Dduw ac aeth yn siriol i gael ei harteithio a’i lladd. Roedd ei mab wedi derbyn coron merthyrdod. Roedd hyn yn gwneud y llywodraethwr hyd yn oed yn fwy dig a gorchmynnodd y dylid rhwygo ystlysau Julitta ar wahân gyda bachau ac yna dorri ei phen.
Cafodd cyrff Julitta a Cyricus eu taflu allan o’r ddinas ar bentwr o gyrff troseddwyr ond achubodd ei morwynion gyrff y fam a’r mab a’u claddu mewn cae gerllaw.
Eglwys Santes Julitta – liw golau canhwyllau
Cynllun Eglwys Santes Julitta
Merthyrdod y Seintiau
Ynghylch Eglwys Santes Julitta