Dyffryn Mymbyr – portread o ddyffryn


Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar Ddyffryn Mymbyr, sef y dyffryn rhwng Capel Curig a’r Wyddfa. Mae’r olygfa o’r dyffryn yn adnabyddus iawn ac mae wedi’i gynrychioli mewn llawer o luniadau, paentiadau a ffotograffau dros y ddau gant a hanner o flynyddoedd diwethaf. Heblaw am y disgrifiad byw o fferm Dyffryn Mymbyr yn y clasur o lyfr gan Thomas Firbank ‘I Bought a Mountain’ a ysgrifennwyd yn y 1930au, ychydig iawn sy’n hysbys i lawer o bobl am y dyffryn ei hun. Treuliodd gwraig gyntaf Firbank, Esme Kirby, ran helaeth o’i bywyd ar y fferm a hi a sefydlodd Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri yn y 1960au. Mae’r grŵp hwn bellach yn dathlu eu 40 mlwyddiant. Mae’r arddangosfa yn ceisio darlunio’n fywiog wahanol agweddau ar y dyffryn, gan gynnwys ei ddaeareg, ei fywyd gwyllt, ei hanes, ei bobl a’i gelfyddyd.


Chwareli a Mwyngloddiau Llechi Capel Curig


Mae’r prif lwybr i fyny Moel Siabod yn mynd trwy gyfres o chwareli llechi cynnar. Mae’r arddangosfa hon yn dangos y chwareli hyn, a aeth bellach yn angof, er mai dim ond yn y 1950au y cawsan nhw eu cau. Roedden nhw wedi darparu gwaith i bobl leol ers dros 150 mlynedd. Chwarel y Rhos yw’r mwyaf o’r grŵp o 5 chwarel lechi sy’n cael eu cuddio ar lethrau Moel Siabod. Roedd hyd at 50 o ddynion yn gweithio yn y Rhos, a fu’n gweithio am dros 100 mlynedd.


Eglwys a Chapel yng Nghapel Curig, hanes


Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar sut roedd pobl o’r cyfnodau cynharaf, mewn anheddiad mor anhysbys â Chapel Curig, yn addoli a cheisio cymorth ac arweiniad. Cyn dyddiau Iesu Grist roedd y Celtiaid cynnar yn ceisio cymorth gan y duwiau ar gyfer eu cnydau a’u bywydau. Defnyddid ebyrth, ebyrth dynol yn aml, i ddylanwadu ar y duwiau a chael canlyniadau ffafriol. Pan ddaeth y llengoedd Rhufeinig, daethan nhw â chredoau, dulliau ac arferion eraill. Yn ddiweddarach, daethan nhw i dderbyn Cristnogaeth. Mae tystiolaeth am y ddau fath hyn o addoli yng Nghymru. Ryw fil o flynyddoedd wedyn mae gennym dystiolaeth ddogfennol am Gristnogaeth yng Nghapel Curig, sy’n dangos bod pobl wedi derbyn gwahanol ffurfiau o Gristnogaeth yma ers tua 650 mlynedd ac mae’n debyg ers tua 600 mlynedd cyn hynny hefyd. Trwy ymchwil drwyadl rydym wedi edrych i mewn i’r cyfnod hwn ac rydym yn cyflwyno darlun o sut roedd y bobl yn byw ac yn cefnogi Cristnogaeth.

English