Cynlluniau at y dyfodol

Os gallwn ennyn y gefnogaeth angenrheidiol byddwn yn ystyried yn fuan godi llawr yr eglwys a gosod rhywbeth mwy addas ar gyfer adeilad canoloesol.


Rydym hefyd yn gobeithio cael dendro-ddyddio trawstiau’r to.


Mae cynnydd i’w weld yn y fynwent; mae gennym wirfoddolwraig erbyn hyn a fydd yn ei goruchwylio, sef Mrs Pat Hooson.  Bydd Pat bob amser yn cael ei chofio fel yr un a ddechreuodd beintio’r rheiliau haearn yn y fynwent a’i chylch gwaith yw ei gwneud yn fwy cyffyrddus i’r preswylwyr.  Mae llawer o bethau eraill yn dal i’n herio, ac un o’r rhai mwyaf yw darparu toiled a chysylltu’r eglwys â’r prif gyflenwad trydan; mae defnyddio generadur cludadwy yn gostus ac anghyfleus.


Mae ehangu’r gweithgareddau yn yr eglwys wedi peri anhawster i storio offer ac adnoddau.  Bwriedir codi storfa bren wrth ymyl cefn yr elordy.


Gwnaeth Mike Cousins gyfraniad uniongyrchol at yr eglwys yn 2008 trwy oruchwylio gosod llechfeini tu allan i’r drws blaen.


Mae llyfr Evan yn dal i werthu.  Mae’n braf nodi ein bod wedi gwneud elw erbyn hyn ar y buddsoddiad a wnaethom wrth gyhoeddi’r llyfr; cysylltwch â ni os hoffech gael copi.  Mae gennym nifer o lyfrau eraill yr hoffem eu cyhoeddi neu’u hailgyhoeddi ond bydd hyn yn dibynnu ar y cyllid a’r amser sydd ar gael,  Mae gennym lawer o lieiniau sychu llestri o hyd; beth am fynd dros ben llestri ac archebu un?  Mae Ken Smith yn dal i dreulio llawer o amser yn rhoi cerrig ar ben ei gilydd ac mae Peter Hutton wedi cwblhau gosod dodrefn ffenestri newydd.


Mae’r Cyfeillion yn cymryd rhan lawn yn y prosiect “Drysau Sanctaidd”, Rhodfeydd Eglwysi Conwy Wledig, sef cynllun dan nawdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddweud mwy wrth y cyhoedd am yr hen eglwysi yn Nyffryn Conwy.


Ydi, mae’r mewnflwch yn llawn iawn; yn wir mae’n gorlifo’n ddifrifol!  Mae ymchwilio i hanes cymdeithasol teuluoedd yng Nghapel Curig yn faes enfawr.  Mae cynnydd y prosiect yn y dyfodol yn dibynnu’n fawr ar frwdfrydedd a chefnogaeth y Cyfeillion.  Yn y gorffennol maen nhw bob amser wedi ymateb yn hael ac mae’r pwyllgor yn diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at beth sydd yma heddiw.  Cofiwch mai’r Cyfeillion sy’n ei wneud, sef grŵp cyfeillgar hamddenol, sydd yma i gyfrannu, i ddysgu ac efallai cael hwyl!

English