Ers wyth mlynedd bellach mae Cyfeillion Eglwys Santes Julitta wedi cyflwyno arddangosfa haf yng Nghapel Curig, gan edrych ar wahanol agweddau ar hanes lleol yn yr ardal ac yn ehangach ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Nod yr arddangosfeydd yw datgelu agweddau ar ddiwylliant, hanes ac amgylchedd yr ardal nad oeddynt yn hysbys neu a oedd wedi’u hanwybyddu o’r blaen. Gwneir ymchwil ar gyfer yr arddangosfa fel gweithgaredd cymunedol, sydd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd lleol gyfoethog. Mae’r arddangosfeydd yn ddwyieithog.
2002 Herbert North, ei Fywyd a’i Waith
2003 Evan Roberts, Chwarelwr a Botanegydd
2004 Capel Curig, Dau Gan Mlynedd o Fynydda
2005 Cerddi Eryri, Disgrifiadau a Darluniadau o ddetholiad o gerddi
2006 O Eryri i’r Himalaya – Hanes Mynydda
2007 Dyffryn Mymbyr – Portread o Ddyffryn
2008 Chwareli a Mwyngloddiau Llechi Capel Curig
2009 Eglwys a Chapeli yng Nghapel Curig
2010 Argraffiadau o Eryri – dehongliad gan 3 arlunydd.
2012 ERYRI - DWR, DWR YN MHOB MAN.
2014 Y Rhyfel Byd Cyntaf - Rhyfel Mawr?
2015 Cipolwg ar a Ffabric - A Glimpse at the Fabric.
2016 Joihn Disley, CBE: Y Dyn a Sbardunodd y Genedl i Redeg.
2017 Pumdeg Mlynedd yn Ddiweddarach – Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 1967.
2018 Teithio Trwy Hanes - Ffyrdd a Pontydd
Sir Gaernarfon
Adnodd sydd ar gael:
Yn 2007, newidiwyd ffurf yr arddangosfeydd, gan ddefnyddio system atgynhyrchu ddigidol a gynhyrchir gan gyfrifiadur ac sy’n fwy drud. Mae hyn yn ei gwneud yn haws eu cludo a’u dangos i gyhoedd ehangach. Yn awr rydym yn ceisio estyn ein harddangosfeydd allan i orielau a chanolfannau eraill. Mae pob arddangosfa yn cynnwys 12 o baneli A1 y gellir eu gosod yn rhwydd ar systemau arddangos masnachol safonol. Mae panel ychwanegol yn egluro ychydig am Gyfeillion Eglwys Santes Julitta.
Dyma restr o’r arddangosfeydd sydd ar gael i’w benthyg:
Dyffryn Mymbyr – Portread o Ddyffryn
Chwareli a Mwyngloddiau Llechi Capel Curig
Eglwys a Chapeli yng Nghapel Curig
Ni chodir tâl penodol am fenthyg yr arddangosfeydd ond buasai’r Cyfeillion yn falch iawn o dderbyn rhodd fechan am y benthyciad.
Am fanylion pellach cysylltwch â Harvey Lloyd.
Arddangosfeydd, ddoe a heddiw